HireFT
Browse JobsHow it worksPricingAboutSuccess Stories
    Back to jobs
    CA

    Capita Personal Independence Payment (PIP)

    Healthcare

    Welsh Speaking Inbound Enquiry Centre Advisors - Stafford

    Stafford, United KingdomOn-SiteFull-timePosted 2mo ago
    All Capita Personal Independence Payment (PIP) jobs

    Job description

    Disgrifiad o’r Swydd

    Cyflog: Yn dechrau ar £26,227.50

    Amgylchedd di-werthu, yn derbyn galwadau gwasanaeth sy’n dod i mewn.

    Byddwch yn gweithio o’ch cyfeiriad cartref gyda swyddfa benodedig yng Nghanolfan The Riverway, Stafford, y byddwch yn ei mynychu o leiaf 3 diwrnod yr wythnos. Bydd y diwrnodau swyddfa yn ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau.

    Swydd amser llawn yw hon – 37.5 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 y bore ac 8.00 yn y nos, gyda rhai dydd Sadwrn rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn.

    Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Ymholiadau Mewnol i ymuno â’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid sy’n ehangu ar sail barhaol amser llawn yn Stafford, DU.

    Mae’r rôl yn cynnwys darparu profiad hawlydd o ansawdd uchel dros y ffôn i hawlwyr newydd a phresennol y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) sydd yn dymuno gwneud hawliad newydd neu sydd eisoes yn derbyn Lwfans Byw Anabledd (DLA) ac ar y cam o adnewyddu eu budd-dal. Mae ein timau gwasanaeth cwsmeriaid yn gyfrifol am ddatrys materion syml a chymhleth ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid, yn ogystal â chwblhau tasgau gweinyddol.

    Prif Gyfrifoldebau:

    • Ateb galwadau gan hawlwyr/cynrychiolwyr a delio ag ymholiadau megis trefnu apwyntiadau mewn modd proffesiynol ac effeithiol, gan sicrhau’r safon uchaf o brofiad i’r hawlydd.
    • Mewnbynnu data’n gywir, gyda sylw i fanylion wrth gwblhau tasgau gweinyddol.
    • Unrhyw ddyletswyddau eraill y gall y busnes eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn sicrhau darpariaeth lwyddiannus y gwasanaeth asesu PIP.

    Cymwysterau

    • Sgiliau gwrando da – gallu deall problemau cwsmeriaid a rhoi esboniadau clir a chryno.
    • Y gallu i weithio’n dda o fewn tîm a dangos hyblygrwydd i ateb anghenion a disgwyliadau’r tîm/busnes.
    • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb dros faterion, gan eu datrys lle bynnag sy’n bosibl yn ystod cam cychwynnol yr ymholiad.
    • Dull ffôn cwrtais a phroffesiynol, gan ddangos parch ac empathi tuag at alwyr.
    • Brwdfrydedd gwirioneddol dros wasanaeth cwsmeriaid.
    • Rheoli amser da.
    • Sylw uchel i fanylion a mewnbynnu data yn gywir.
    • Y gallu i weithio patrwm sifftiau amrywiol yn ystod oriau agor y ganolfan gyswllt.
    • Bod yn hyblyg i newid mewn amgylchedd sy’n newid yn barhaus.

    Gwybodaeth Ychwanegol

    Mae gennym raglen hyfforddi sy’n dechrau ar 7fed o Medi 2026, felly bydd angen i chi allu ymrwymo i hyn. Ni allwn gymeradwyo unrhyw wyliau blynyddol o fewn 6 wythnos gyntaf yr hyfforddiant.

    Bydd pob cynnig yn amodol ar gwblhau gwiriad safonol o ran Diogelwch Personél Sylfaenol yn foddhaol, sy’n cynnwys gwiriad troseddol sylfaenol.

    Buddiannau:

    • Cyflog cychwynnol o £26,227.50
    • Bonws perfformiad chwarterol dewisol
    • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal ag 8 gwyliau statudol
    • Cyfleoedd i symud ymlaen a datblygu gyrfa werth chweil gydag un o gwmnïau FTSE 100 (mae dros 70% o’n rheolwyr wedi datblygu o fewn y cwmni)
    • Pensiwn gyda chyfraniad cyfatebol gan y cwmni (hyd at 5% o’ch cyflog), sicrwydd bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu â thâl llawn, dau wythnos o dâl tadolaeth… a llawer mwy
    • Buddiannau gwirfoddol wedi’u cynllunio i weddu i’ch ffordd o fyw – o ostyngiadau mewn siopa a chymdeithasu i iechyd a lles, teithio a thechnoleg
    • Y cyfle i gymryd diwrnod wedi’i dalu allan o’r swyddfa, yn gwirfoddoli ar gyfer ein partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis
    • Mynediad at ein Grwpiau Rhwydwaith Gweithwyr, sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn galluogi cydweithwyr i gysylltu a dysgu oddi wrth ei gilydd ar blatfform agored a chynhwysol
    • Rhaglen cymorth i weithwyr – cefnogaeth a chyngor 24/7 ar faterion personol neu waith

    Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, sy’n golygu ein bod yn recriwtio ac yn datblygu pobl ar sail eu teilyngdod a’u hangerdd. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu proses recriwtio a gweithle cynhwysol, heb rwystrau i bawb.

    Os oes angen y disgrifiad swydd neu’r ffurflen gais mewn fformat arall (megis print mawr neu sain), neu os hoffech drafod unrhyw addasiadau neu gymorth pellach, cysylltwch drwy e-bost: [email protected] a byddwn yn ymateb. Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd cyfartal ac addasiadau i’r broses, ewch i wefan Gyrfaoedd Capita.

    Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau y cynigir cyfweliad i nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf lleiaf ar gyfer y swydd hon. Mae addasiadau ar gael ar gais. Am ragor o wybodaeth neu i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch, cysylltwch â ni ar: [email protected].

    Job details are sourced from the employer's original posting.

    Open job posting
    CA

    About the company

    Capita Personal Independence Payment (PIP)

    Discover a new kind of career in healthcare as a functional specialist. Working in healthcare, and looking for a change? If you’re a nurse (RMN, RNLD, RGN) ,occupational therapist, physiotherapist or paramedic, you could use your skills in a different way as a functional specialist. At Capita Health Assessment Advisory Service (HAAS), we provide unbiased, comprehensive assessments for claimants of the Government’s disability allowance (Personal Independence Payment), over the phone, on a video call or in-person, either at one of our assessment centres or in claimants’ homes.

    View all Capita Personal Independence Payment (PIP) jobs
    Industry
    Healthcare
    Open roles
    43

    Interested in this role?

    Apply with HireFT

    Free to start — no card required.

    Your fit

    How well do you match?

    Sign in to see how your résumé lines up with this role.