Training Provider Relationship Manager
Hours of Work: Full-time (35 hours per week)
Contract: Permanent
Grade: SC2
Target Salary: £42,642 per annum+ £6,452 annual Car Allowance + £580 annual Mobile Workiing Allowance
Location: Mobile - South and South-West
Although this role covers the South and Southwest, a majority of our Training Providers in this region are based within the West Midlands and South Wales area. where a larger volume of work is required. Locations covered within role include (Birmingham, Black Country, Warwickshire, Herefordshire, Worcestershire, Gloucestershire, Swindon, Wiltshire, Dorset, Avon, Somerset, Devon, Cornwall, Oxfordshire , Buckinghamshire, Berkshire, Milton Keynes, Mid Wales and South Wales.)
About the Role
We have a fantastic opportunity to be part of the CITB Customer Engagement Team as a Training Provider Relationship Manager, where you will be engaging with training providers on behalf of CITB. You will build and maintain positive relationships with providers who deliver construction training, while also supporting their business development needs. A good understanding of the construction skills landscape, alongside experience within construction training, would be highly beneficial in this role. You will use this knowledge to understand the challenges and opportunities facing training providers and support them effectively within an evolving construction skills landscape.
We are looking for someone who is comfortable travelling extensively across Great Britain to meet and build rapport with our customers, and a keen collaborator who can ensure clear communication channels with colleagues across the business. You will manage stakeholder expectations across CITB and your customers. You’ll be the main point of contact for our customers and will need to support their business development in an evolving construction skills landscape.
What you’ll be doing:
Key Responsibilities:
What we’re looking for:
Essential
Desirable
Why join CITB?
Closing Date
Please note that we reserve the right to close the vacancy prior to the stated closing date. Applications will be reviewed on an ongoing basis, therefore early applications are encouraged to avoid disappointment.
Artificial Intelligence
Artificial Intelligence can be a useful tool to support your application, however, all examples and statements provided must be truthful, factually accurate and taken directly from your own experience. Where plagiarism has been identified (presenting the ideas and experiences of others, or generated by artificial intelligence, as your own) applications may be withdrawn and internal candidates may be subject to disciplinary action.
Rheolwr Perthynas Darparwyr Hyfforddiant
Oriau Gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Contract: Parhaol
Gradd: SC2
Cyflog Targed: £42,642 y flwyddyn: Lwfans Car blynyddol o £6,452 + Lwfans Gweithio Symudol blynyddol o £580
Lleoliad: Symudol – De a De-orllewin
Er bod y rôl hon yn cwmpasu De a De-orllewin Lloegr, mae mwyafrif ein Darparwyr Hyfforddiant yn y rhanbarth hwn wedi'u lleoli yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Cymru, lle mae angen mwy o waith. Mae'r lleoliadau a gwmpesir gan y rôl yn cynnwys Birmingham, y Black Country, Swydd Warwick, Swydd Henffordd, Swydd Gaerwrangon, Swydd Gaerloyw, Swindon, Wiltshire, Dorset, Avon, Gwlad yr Haf, Dyfnaint, Cernyw, Swydd Rydychen, Swydd Buckingham, Berkshire, Milton Keynes, Canolbarth Cymru a De Cymru.
Ynglŷn â’r Rôl
Mae gennym gyfle gwych i ymuno â Thîm Ymgysylltu â Chwsmeriaid CITB fel Rheolwr Perthynas Darparwyr Hyfforddiant, lle byddwch yn ymgysylltu â darparwyr hyfforddiant ar ran CITB. Byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol â darparwyr sy'n cynnig hyfforddiant adeiladu, gan gefnogi eu hanghenion datblygu busnes hefyd. Byddai dealltwriaeth dda o'r dirwedd sgiliau adeiladu, ynghyd â phrofiad ym maes hyfforddiant adeiladu, yn fuddiol iawn yn y rôl hon. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu darparwyr hyfforddiant ac i'w cefnogi'n effeithiol o fewn tirwedd sgiliau adeiladu sy'n esblygu.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gyfforddus yn teithio'n helaeth ar draws Prydain Fawr i gwrdd â'n cwsmeriaid a meithrin perthynas dda â nhw, ac sy'n awyddus i gydweithio ac yn gallu sicrhau sianeli cyfathrebu clir gyda chydweithwyr ar draws y busnes. Byddwch yn rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid ar draws CITB a'ch cwsmeriaid. Chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer ein cwsmeriaid a bydd angen i chi gefnogi eu datblygiad busnes mewn tirwedd sgiliau adeiladu sy'n esblygu.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:
Cyfrifoldebau Allweddol:
Prif gyfrifoldeb am berthnasoedd â llwyth achosion o ddarparwyr
Tyfu'r rhwydwaith drwy weithgareddau datblygu busnes, hyrwyddo cyfleoedd i ddarparwyr hyfforddiant cymwys a'u cefnogi drwy brosesau cofrestru/contractio eraill
Cynnal cyfarfodydd adolygu rheolaidd sy'n ystyried perfformiad darparwyr o ystod o safbwyntiau
Gweithio gyda chydweithwyr ar draws y busnes i ymateb i ymholiadau cymhleth gan ddarparwyr neu gwynion anffurfiol. Codi ymholiadau i lefel uwch neu geisio mewnbwn arbenigol gan y rhan briodol o'r sefydliad yn ôl yr angen
Cadw cofnodion cywir o ymgysylltiad â chwsmeriaid gan ddefnyddio CRM (ac offer adrodd eraill yn ôl yr angen) a darparu naratif a dadansoddiad ysgrifenedig ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol
Cynrychioli'r tîm ymgysylltu ar brosiectau mewnol neu gyfarfodydd rheoli perthnasoedd yn ôl yr angen
Yn y cenhedloedd datganoledig, darparu mewnwelediad i ddarpariaeth hyfforddiant sy'n benodol i'r genedl er mwyn helpu i ddylanwadu ar bolisi sgiliau, lle bo hynny'n berthnasol ac yn unol â cheisiadau.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
Hanfodol
Dymunol
Pam ymuno â CITB?
• 25 diwrnod o wyliau + gwyliau banc
• 3 diwrnod ychwanegol ar gyfer cyfnod cau'r Nadolig
• Cynllun pensiwn hael (cyfraniad cyflogwr o hyd at 9%)
• Yswiriant bywyd (4 gwaith y cyflog)
• 2 ddiwrnod o wirfoddoli â thâl y flwyddyn
• Datblygiad proffesiynol a chymwysterau hyfforddiant wedi'u hariannu
• Rhaglen Cymorth i Weithwyr
• Bod yn rhan o sefydliad uchel ei barch sy'n siapio dyfodol y diwydiant adeiladu yn y DU
Dyddiad Cau
Sylwch ein bod yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag cyn y dyddiad cau a nodwyd. Bydd ceisiadau'n cael eu hadolygu'n barhaus; felly, anogir ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau'n gynnar er mwyn osgoi siom.
Deallusrwydd Artiffisial
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn offeryn defnyddiol i gefnogi eich cais; fodd bynnag, rhaid i bob enghraifft a datganiad a ddarperir fod yn wir, yn gywir yn ffeithiol ac yn deillio'n uniongyrchol o'ch profiad eich hun. Os nodir achosion o lên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu ddeunydd a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial, fel rhai eich hun), gellir tynnu ceisiadau yn ôl a gall ymgeiswyr mewnol wynebu camau disgyblu.
Job details are sourced from the employer's original posting.
Open job posting